Trefn Ymgeisio
Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’r ffurflen gais a ddarperir yn llwyr. Byddwn yn derbyn Curriculum Vitae ond bydd gofyn i ymgeiswyr ei deilwra yn ôl gofynion y swydd h.y. y meini prawf a nodwyd yn y swydd-ddisgrifiad a’r manylion am yr unigolyn.
Trefn Recriwtio
Bydd y broses ddethol ar gyfer y swyddi a amlinellir isod yn cael ei chynnal dros ddau ddiwrnod. Y Prif Weithredwr, y Gyfarwyddwraig Gorfforaethol Gwella a Datblygu, y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a’r Pennaeth Gwasanaethau Personél Corfforaethol fydd yn cynnal cyfweliadau Cam 1.
Bydd yr ymgeiswyr sy’n mynd ymlaen i Gam 2 yn cael eu cyfweld ar y diwrnod canlynol gan y Pwyllgor Penodi Penaethiaid Gwasanaeth (Pwyllgor o Gynghorwyr) gyda chymorth y swyddogion a enwir uchod.
a) Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio
- Cam 1: Dydd Llun 17 Mawrth 2008.
- Cam 2: Dydd Mawrth 18 Mawrth 2008.
b) Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol
- Cam 1: Dydd Mercher 19 Mawrth 2008.
- Cam 2: Dydd Iau 20 Mawrth 2008.
c) Pennaeth Gwasanaethau Peirianneg a Dylunio
- Cam 1: Dydd Llun 31 Mawrth 2008.
- Cam 2: Dydd Mawrth 1 Ebrill 2008.
Gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y dyddiadau hyn. Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliadau dros y ffôn/drwy e-bost ddim hwyrach na 5 00 p.m. ar Ddydd Mercher 12 Mawrth 2008, a byddwn yn rhoi cadarnhad ysgrifenedig o hyn.
Bydd y rhaglen ddethol yn cynnwys cyflwyniadau, cyfweliadau ffurfiol a phrofion seicometrig galwedigaethol. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei roi i ymgeiswyr fydd yn cael eu gwahodd am gyfweliad.
Dylid anfon ceisiadau yn ôl at Phil Davies, Pennaeth Gwasanaethau Personél Corfforaethol, Bodlondeb, Conwy LL32 8DU erbyn 5 00 p.m. ar ddydd Iau 6 Mawrth 2008.