Derek Barker
Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Neges Bersonol gan y Prif Weithredwr
Derek Barker -
Prif Weithredwr
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi aeddfedu i fod yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i wella’r gwasanaethau a ddarperir i drigolion ac ymwelwyr. Mae’n cydnabod pwysigrwydd ei staff ac yn dymuno datblygu arbenigedd y staff hwnnw i droi ei amcanion yn realiti drwy gynllunio pwyllog sy’n dod â bendithion pendant.
Bydd y pwysau ar yr awdurdod yn parhau hyd y gellir rhagweld a dyna pam rydym yn gobeithio penodi pobl broffesiynol fedrus a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein goliau corfforaethol, ac na fydd yn ofni herio’r norm a bod yn arloesol. Byddaf yn rhoi fy nghefnogaeth lwyr i unrhyw un sy’n barod i wynebu’r her honno.
Mae Conwy’n le gwych i fyw a gweithio ynddo. Mae yng nghanol Gogledd Cymru, wedi’i amgylchynu gan gefn gwlad godidog ac arfordir ac eto, ond awr i ffwrdd o fywiogrwydd Gogledd Orllewin Lloegr.